Tyler: Fy Mlwyddyn Gyntaf

Eisiau gwybod mwy am astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe? Dyma flog Tyler, sy’n y flwyddyn gyntaf yn astudio BA Cymraeg Ail Iaith:

Helo pawb! Fy enw i Tyler ac rydw i’n ysgrifennu i siarad am fy mhrofiad yn y flwyddyn gyntaf yn Abertawe! ‘Nes i astudio’r Gymraeg (ail iaith) ac rydw i’n dwlu ar y pwnc! I fi, mae fy mlwyddyn gyntaf yn wedi bod arbennig iawn am lawer o resymau. 

Ar ddechrau’r flwyddyn, roeddwn i’n teimlo’n ofnus am lawer o bethau; fy ffrindiau, fy nghwrs, ble roeddwn i’n byw ond dw i’n teimlo bod fy nghymuned Cymraeg wedi fy helpu i fod yn hyderus ac rwy’n hapus i fod yn astudio yn Abertawe. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n mynd i gael y gefnogaeth fel ces i’r flwyddyn hon. Mae tiwtoriaid wedi bod anhygoel efo’r pethau dw i wedi bod yn becso amdanynt, a gwnes i deimlo’n fwy na hapus i fynegi fy mhryderon gydag unrhyw beth, o drafod gwaith prifysgol i waith tu hwnt i’r brifysgol. 

Doedd y gwaith ddim yr un peth, ac rydw i wedi mwynhau’r flwyddyn. Basa i’n dweud fy mod i’n berson cymdeithasol felly roeddwn i hapus pan ‘nes i ddarganfod y ‘Sirens’, sef grŵp cheerleading y brifysgol. Gwnes i lawer o ffrindiau a gwneud llawer o bethau gyda’r tîm. Er enghraifft, es i Fanceinion, Darbi a Gaerdydd i gystadlu, oedd yn llawer o hwyl! Hefyd, ces i’r cyfle i fod hyfforddwraig Hip Hop, sy’n gyffrous iawn. Rydw i’n hapus iawn i gael y cyfle i helpu pobl eraill fel wnaeth fy hyfforddwragedd fy helpu i.

Mae’r haf yma yn Brifysgol yn wedi bod yn ffab! Prifysgol Abertawe yw’r lle perffaith os ydych chi yn dwlu ar y traeth fel fi! Mae’r llawer o gyfleoedd i ymlacio, mae hyn yn berffaith i stopio yn meddwl am yr arholiadau neu jyst i fwynhau dy hun yn yr haul. 

Rhestr Eirfa

CymraegSaesneg
fy mhrofiadmy experience
hyderusconfident
becso amdanyntworry about
hyfforddwr / hyfforddwraigtrainer / coach
person cymdeithasolsociable person

Gadael sylw