Cara: Intern Academi Hywel Teifi

Shwmae! Cara ydw i ac rwy’n dod at ddiwedd fy ail flwyddyn yn astudio Cymraeg ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe. Gyda’r flwyddyn academaidd nesaf yn agosáu dyma flog sy’n sôn am un o fy hoff atgofion yn ystod yr haf.

Ers cychwyn yma ym Mhrifysgol Abertawe, mae Academi Hywel Teifi wedi bod yn rhan o’r siwrnai – nhw sy’n gyfrifol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r profiadau dwi wedi’u derbyn wrth Academi Hywel Teifi ers dechrau yn y brifysgol wedi bod yn anhygoel, ac rwy’n ddiolchgar iawn i’r Academi am ei holl ddarpariaeth a’i gwaith caled!

Yn ystod yr haf, fe fues yn intern ar gyfer Academi Hywel Teifi, a oedd yn gyfle gwych i gael mewnwelediad o beth sy’n mynd ymlaen tu ôl i’r llenni! Roeddwn yn rhan o drefnu digwyddiadau megis Eisteddfod yr Urdd a gweld yr holl beth yn dod yn fyw, ac hefyd yn gweld yr holl baratoadau ar gyfer croesawu’r myfyrwyr newydd fydd yn ymuno â ni ym mis Medi.

Yn rhan o’r interniaeth, fe wnes i ddiweddaru ap Arwain yr Academi yn ogystal â gweithio ar faes yr Eisteddfod – profiad wnai byth anghofio! Mae’r holl gyfleuoedd a dderbyniais tra’n gweithio fel intern wedi fy helpu i ddatblygu llwyth o sgiliau, gan gofio mai dim ond 210 awr oedd y cyfnod cyfan!

O ran fy uchafbwynt fel Intern, yn bendant, bod yn yr Eisteddfod yn Llanymddyfri oedd honno. Fel myfyrwraig sydd yn enedigol o Sir Gâr, dyma’r cyfle perffaith i mi yn ystod yr haf! Creu pili-palas cromatograffig oedd fy nghyfrifoldeb ar faes yr Eisteddfod yn y GwyddonLe ac mi roedden nhw’n hedfan allan (yn llythrennol)!

Ers dechrau yn y brifysgol mae’r cyfleoedd dwi wedi derbyn drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn helaeth, o astudio’r Dystysgrif Sgiliau Iaith i allu cystadlu gydag Aelwyd yr Elyrch yn Eisteddfod yr Urdd. Teimlaf fod Prifysgol Abertawe wedi treiddio i’m personoliaeth wrth i’r Adran Gymraeg yn ogystal â darpariaeth cyfrwng Cymraeg y brifysgol, drwy’r Academi, gefnogi hyn.

Felly beth nesaf? Yn ychwanegol i hyn yn ystod yr haf dwi wedi bod yn brysur yn gweithio mewn llefydd amrywiol ond dwi wedi bod yn ddigon ffodus i dderbyn interniaeth cyfieithu gyda’r brifysgol.

A’m llaw ar fy nghalon, ni allaf ddychmygu ba fath o le byddai Brifysgol Abertawe heb Academi Hywel Teifi a’r cyfleoedd dwi wedi ei dderbyn wrth astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Yr holl gefnogaeth, yr holl gymdeithasu a’r holl waith dwi wedi derbyn drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r interniaeth yma a’r holl bobl arbennig dwi wedi gweithio gydag yn ystod y cyfnod, yn sicr yn mynd i aros yn fy nghof am byth! Edrychaf ymlaen at flwyddyn nesaf!

Cofia gysylltu â academihywelteifi@abertawe.ac.uk am fwy o wybodaeth am fywyd cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe!

Cara

CymraegSaesneg
agosáucoming closer
atgofionmemories
siwrnaijourney
yn enedigol o…who was born in…
treiddiopenetrate / becomes part of [something]
ffodusfortunate

Gadael sylw